EirianROWLANDSAr ôl brwydr ddewr yn erbyn salwch blin, bu farw Eirian, Trem y Garth, Pentre'r Eglwys, Pontypridd, yn dawel ar brynhawn Sadwrn, 16 Mai, yn ei chartref ac yng nghwmni ei theulu.
Priod ffyddlon a gofalgar Keith, mam dyner Meinir ac Iwan, mam yng nghyfraith Dyfrig a Nia a mamgu arbennig Steffan, Lowri, Hanna, Erin a Ffion.
Cynhelir ei hangladd yng nghapel y Wenallt, Amlosgfa Thornhill ar y 16eg o Fehefin am 1.30 o'r gloch.
Blodau'r teulu yn unig ond rhoddion pe dymunir er cof am Eirian i elusen Marie Curie trwy law'r ymgymerwyr
WH Preene a'i Fab, Mwyndy, Pontyclun neu ar wefan yr elusen.
Keep me informed of updates